![](https://images.squarespace-cdn.com/content/v1/6027a7fc2fb17600e9e59d61/e42cb626-1e8c-4916-86ff-681196cd41a5/IMG_20201125_134638219_HDR.jpg)
digwyddiadau a Chyfleoedd
Cyfleoedd DAC
Rydym yn edrych am Rheolwr Cyllid a Gweinyddiaeth i ymuno a tîm ffantastig Celfyddydau Anabledd Cymru. Ydych chi’n berson drefnus gyda sylw rhagorol i fanylion a'r gallu i gadw golwg ar derfynau amser amryfal? Gallai'r rôl hon fod ar eich cyfer chi.
Cyfleoedd Celfyddydau
Mae Theatr y Sherman yn chwilio am Reolwr y Swyddfa Docynnau a Mewnwelediadau Cynulleidfaoedd er mwyn helpu i gyflawni ei nodau busnes, drwy ddefnyddio eu hangerdd dros wasanaethu cynulleidfaoedd i gyflawni gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a mewnwelediadau dadansoddol.
Mae Sairah Ahsan a Jo Lambert yn trefnu digwyddiad hybrid rhad ac am ddim ar y 13eg Gorffennaf ar gyfer awduron sy’n cael eu tangynrychioli oherwydd ffactorau gan gynnwys incwm isel, hiliaeth, ableddiaeth, homoffobia, rhagfarn gwrth-draws a ddosbarthiaeth.
Mae Arddangosfa Agored Tŷ Pawb, sy’n hynod boblogaidd, yn gystadleuaeth Gelf cyflwyniad agored bob dwy flynedd lle gwahoddir Artistiaid i gyflwyno hyd at dri darn o waith celf i’w hystyried i’w harddangos yn ein harddangosfa agored. Denodd Cystadleuaeth Agored 2022 dros 4,500 o ymwelwyr.
Gŵyl Undod Hijinx yw un o wyliau celfyddydol cynhwysol mwyaf Ewrop. Mae rhaglen eleni yn cynnwys Nye Russell-Thompson o DAC! Mae StammerMouth, cwmni theatr arobryn Nye, yn dangos CHOO CHOO! yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 5 Gorffennaf am 8yp. Mae'r cynhyrchiad yn cynnwys IAP wedi'i integreiddio gan Laura Goulden a Disgrifiad Sain wedi'i integreiddio.
Delwedd: Abi Palmer, llun o ffilm Slime Mother 2024.
Mae arddangosfa unigol gyntaf yr artist, awdur a gwneuthurwr ffilm Abi Palmer yn creu realiti amgen lle mae gwlithod, yn hytrach na chael eu trin â ffieidd-dod, yn cael eu parchu.
Rhaglen Mentora Eiriolaeth Anabledd gyda Swyddog Cefnogi Ymgyrchoedd Leonard Cheshire, Joshua Reeves.