Peak Peers 2024
Awdur: Peak Cymru
Rhaglen wyth diwrnod yw Cyfoedion Peak 2024, sy’n gwahodd pobl ifanc i archwilio themâu tir, perthyn, ymgyrchu, a chreadigrwydd, ac sydd wedi’i gwreiddio yn y Mynyddoedd Duon a’r Gororau. Mae’r rhaglen yn cael ei chynnal yn ystod mis Medi, mis Hydref a mis Tachwedd 2024, ac mae’n cynnwys gweithdai creadigol, sgyrsiau a mynd am dro gydag artistiaid ac ymgyrchwyr. Cynhelir Cyfoedion Peak gan Peak Cymru ac mae wedi’i lleoli ar ein dau safle, Platfform 2 yng Ngorsaf Drenau’r Fenni a’r Hen Ysgol yng Nghrughywel, gydag ymweliadau â’r Mynyddoedd Duon, Dyffryn Wysg a’r ardaloedd cyfagos.
Hoffech chi archwilio’r Mynyddoedd Duon, datblygu sgiliau newydd a bod yn rhan o grŵp o gyfoedion cefnogol?
Oes gennych chi ddiddordeb mewn archwilio cwestiynau am dir, perthyn, ymgyrchu a chreadigrwydd mewn cyd-destun gwledig?
Hoffech chi gwrdd ag artistiaid a phobl o ddisgyblaethau eraill sy’n archwilio’r themâu yma?
Mae Cyfoedion Peak ar agor i 12 o bobl ifanc, rhwng 18 a 30 oed, sy’n byw o fewn awr i’r Fenni (yng Nghymru neu yn Lloegr) ac mae pob cyfranogwr yn cael bwrsariaeth o £500 i dalu am eu costau teithio a’u treuliau. Rydyn ni’n chwilio am grŵp o bobl sydd â diddordeb mewn dod at ei gilydd fel cyfoedion i rannu, gwrando, creu a dysgu.
Eleni, rydyn ni’n gweithio gyda’r artistiaid a’r ymarferwyr canlynol:
Bydd Jannat Ahmed, cyd-sylfaenydd Lucent Dreaming, yn cyd-gynnal gweithdy ysgrifennu creadigol ar y diwrnod croesawu.
Bydd yr artist Manon Awst yn curadu ac yn cynnal penwythnos 1 yn archwilio amser dwfn, y corff a pherthnasoedd rhyngrywogaethol mewn ymateb i gyforgors fawn Waun Ddu.
Yr ymgyrchwyr Nadia Shaikh a Jon Moses o Right to Roam fydd yn cynnal penwythnos 2 yn archwilio hawliau tir ac ymgyrchu creadigol, gyda gweithdy creu baneri wedi’i gynnal gan George H.Wale.
Yr artist a’r gwneuthurwr ffilmiau Beverly Bennett fydd yn cynnal penwythnos 3, ac yn archwilio arferion gwrando dwfn ac yn cynnal gofod i’r cyfoedion fyfyrio ar eu profiadau yn ystod y rhaglen.
Manylion allweddol
⛰️Cyfoedion Peak: Rhaglen greadigol wyth diwrnod sy’n gwahodd pobl ifanc i weithio gydag artistiaid a chydweithwyr trawsddisgyblaethol i archwilio cwestiynau am dir, perthyn, ymgyrchu a chreadigrwydd mewn mannau gwledig – cynhelir gan Peak Cymru.
📍 Platfform 2, Gorsaf Drenau’r Fenni a’r Hen Ysgol, Crughywel
✨ Gweithdai creadigol, cyd-greu, mynd am dro, sgyrsiau ac ymweliadau
🧍 I grŵp o 12 o bobl rhwng 18 a 30 oed, sy’n byw o fewn awr i’r Fenni
💷 Bydd pob cyfranogwr yn cael bwrsariaeth o £500 am eu hamser a’r teithio
💻 Sesiwn galw heibio holi ac ateb ar Zoom: dydd Mercher 31 Gorffennaf 2024, 5-7pm
💌 Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 9am, 12 Awst 2024
Dyddiadau’r rhaglen
Sesiwn groesawu: dydd Sadwrn 20 Medi
Penwythnos 1: dydd Gwener 27 – dydd Sadwrn 28 Medi
Penwythnos 2: dydd Sadwrn 12 – dydd Sul 13 Hydref
Penwythnos 3: dydd Gwener 25 – dydd Sadwrn 26 Hydref
Sesiwn werthuso: dydd Gwener 8 Tachwedd
⏰ Mae pob diwrnod yn rhedeg rhwng 10am a 4pm
Beth i’w ddisgwyl
Byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr â grŵp ysbrydoledig o artistiaid ac ymgyrchwyr.
Byddwch yn archwilio themâu tir, perthyn, ymgyrchu ac arferion creadigol mewn mannau gwledig.
Byddwch yn datblygu sgiliau newydd ac yn rhannu eich sgiliau presennol, ac yn datblygu cyfeillgarwch a rhwydweithiau.
Bydd gennych fynediad at gyfleoedd mentora un i un a byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad rhannu anffurfiol ar y diwrnod olaf, wedi’i siapio a’i gynllunio gan y grŵp.
Bydd pob cyfranogwr yn cael bwrsariaeth o £500 i dalu am dreuliau, gan gynnwys teithio i’r rhaglen. Byddwn ni’n darparu cinio bob dydd.
I ymgeisio, mae angen i chi fod:
yn 18-30 oed
yn byw o fewn awr i’r Fenni (yng Nghymru neu yn Lloegr)
yn gallu teithio i’r Fenni neu Grughywel ac oddi yno bob dydd o’r rhaglen (bydd Peak yn trefnu unrhyw deithio ychwanegol ar gyfer ymweliadau a theithiau arbennig)
ar gael ar yr holl ddyddiadau
â diddordeb yn y themâu, yn awyddus i roi cynnig ar bethau newydd ac i weithio gyda phobl eraill. Does dim angen profiad o raglenni celf na sgiliau technegol.
Sut i ymgeisio a’r broses ddewis
Rydyn ni’n awyddus i ddod â grŵp o gyfoedion at ei gilydd sydd â gwahanol ddiddordebau a phrofiadau bywyd, ac i gynnig lle agored a chroesawgar i gysylltu, sgwrsio ac arbrofi. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau yn arbennig gan bobl ifanc sydd wedi profi rhwystrau rhag cael mynediad at gyfleoedd creadigol, ac sy’n dod o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli yn y celfyddydau. Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech drafod unrhyw beth yn gyfrinachol, cysylltwch â ni: ellen@peak.cymru
Bydd y ceisiadau’n cael eu hystyried gan banel sy’n cynnwys pobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn rhaglenni Peak o’r blaen, a staff Peak. Bydd proses llunio rhestr fer, ac yna cyfweliadau anffurfiol byr ar-lein ddydd Llun a dydd Mawrth, 19-20 Awst. Byddwn ni’n cysylltu â phob ymgeisydd i roi gwybod am y penderfyniad erbyn dydd Gwener 30 Awst. Mae’r rhaglen ar agor i bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn rhaglenni Peak o’r blaen, oni bai am raglen Platfform Haf 2022 a Cyfoedion Peak 2023.
I ymgeisio, llenwch y ffurflen gais ar-lein, sydd ar gael YMA.