Arddangosfa Cerddoriaeth a Hil yng Nghymru - Tŷ Cerdd
Awduron: Tŷ Cerdd, Black Lives in Music, TÂN Cerdd & Chapter
Galw ar artistiaid o liw yng Nghymru, pob genre!
Mae Tŷ Cerdd, Black Lives in Music, TÂN Cerdd a Chapter yn gwahodd cynigion perfformiad ar gyfer SHOWCASE i arddangos doniau cerddorol artistiaid Du, Asiaidd ac Aml-Ethnig yng Nghymru, ddydd Mawrth 15 Hydref yn Chapter, Caerdydd
Rydym yn annog ceisiadau gan artistiaid o unrhyw genre – o jazz, clasurol a gwerin, i arddulliau soul, trefol, ac arbrofol. Croesawir popeth – rydym eisiau hyrwyddo’r gerddoriaeth orau sy’n cael ei gwneud gan Artistiaid o Liw yng Nghymru. Yr unig amod yw bod Artistiaid o Liw yn ganolog
Bydd artistiaid yn derbyn £300 fesul person am berfformiad 20 munud
Bydd SHOWCASE yn cynnwys tua 9 o artistiaid neu fandiau
Bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys sgyrsiau sector ynghylch sut i fwrw ymlaen i hyrwyddo cerddorion Mwyafrif Byd-eang yng Nghymru
I ymgeisio…
… lanlwythwch y wybodaeth ganlynol i’n PORTH
1. Manylion personol: eich enw, cyfeiriad ebost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, cadarnhad eich bod dros 18 oed (ac unrhyw un sy’n perfformio gyda chi)
2. Dywedwch wrthym am eich gwaith: rhowch grynodeb o’ch gyrfa fel crëwr cerddoriaeth a beth rydych chi wedi bod fwyaf balch ohono. (dim mwy na 150 gair)
3. Enghreifftiau o’ch gwaith? atodwch 2 ddolen i’ch cerddoriaeth (ffilm neu sain yn unig). [sylwer: anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; os oes angen help arnoch i greu dolenni, rhowch wybod i ni.]
4. Perfformwyr a manylion technegol: lanlwythwch fanylion yr holl berfformwyr perthnasol, ynghyd â manylebau/gofynion technegol
5. A oes gennych unrhyw anghenion mynediad? Dywedwch wrthym os oes unrhyw gefnogaeth neu unrhyw amodau sydd eu hangen arnoch i’ch galluogi i gymryd rhan yn Showcase.
Amserlen a’r broses
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 1000 dydd Llun 19 Awst 2024 [sylwer y bydd y porth yn cau am 1001]
Bydd y panel (Roger Wilson, Black Lives in Music; Dionne Bennett, TÂN Cerdd; Deborah Keyser, Tŷ Cerdd) yn cwrdd yn fuan ar ôl y dyddiad cau
Byddwn yn rhoi gwybod beth yw’r canlyniad i chi erbyn yr wythnos sy’n dechrau dydd Llun 2 Medi
Ar gyfer pwy mae’r cyfle hwn?
Artistiaid o Liw o unrhyw genre sydd am arddangos eu gwaith i’r sector yng Nghymru. Nid oes unrhyw amodau eraill! Rydym am gael cynrychiolaeth o’r gerddoriaeth wych, traws-genre, sy’n cael ei gwneud reit nawr gan artistiaid Mwyafrif Byd-eang yng Nghymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Showcase neu’r broses, mae pob croeso i chi anfon ebost atom: enquiries@tycerdd.org
Cyflwynir gan Tŷ Cerdd; Black Lives in Music; TÂN Cerdd; Chapter