![](https://images.squarespace-cdn.com/content/v1/6027a7fc2fb17600e9e59d61/b37c3ba2-1e52-4be2-b973-857a3123fc38/Arts+%26+Business+Award+2021+Staff.jpg)
Y Tîm
Staff
Alan Whitfield
Swyddog Celf Weledol
Fy enw i yw Alan Whitfield. Fi yw Swyddog Celfyddydau Gweledol Cenedlaethol Celfyddydau Anabledd Cymru yng Nghonwy. Rwyf yn falch dros ben o fy swydd gyda DAC, ac rwyf bob amser yn awyddus i fynd gam ymhellach i greu'r gorau i fy ngrŵp o Artistiaid. Rwyf yn cefnogi Artistiaid DAC i gyflawni eu nodau o gael gwared ar ynysigrwydd cymdeithasol i wynebu’r byd. Mae gennym gymuned wych sy’n rhannu, cefnogi a grymuso ein gilydd.
Cerys Knighton
Rheolwr Cyfathrebu Digidol
Mae Cerys yn gyffrous i ymgymryd y rôl Rheolwr Cyfathrebu Digidol yn DAC ac yn angerddol am rôl y celfyddydau fel platfform i herio canfyddiadau cymdeithasol ac i amlygu rhwystrau systemig. Tu hwnt i DAC, mae Cerys yn artist gweledol llwyddiannus ac wedi cyflawni doethuriaeth yn ymchwilio hanes hunaniaeth feddygol a chymdeithasol salwch deubegwn.
Nye Russell-Thompson
Swyddog Celfyddydau Perfformiadol A Llên
Wedi'i leoli yng Nghaerdydd, Nye yw Swyddog Celfyddydau Perfformiadol a Llenyddiaeth Disability Arts Cymru. Dros y flwyddyn diwethaf, mae Nye wedi bod yn gweithio gyda aelodau ifanc DAC ar ddigwyddiadau, cyfleoedd a datblygu sgiliau fel y Swyddog Celfyddydau Ifanc. Mae’n gyffrous i weithio mewn ffordd debyg gyda’r aelodau ym meysydd llenyddiaeth a’r celfyddydau perfformiadol. Gyda’i gwmni theatr a defnyddio ei brofiad i helpu artistiaid ifanc DAC i gysylltu â'i gilydd ar draws ffurfiau celf, datblygu perthnasau gwaith, a'u helpu yn eu harferion. Gyda’i gwmni theatr llwyddiannus StammerMouth, mae Nye yn teithio cynyrchiadau creadigol hygyrch, am bynciau sy’n anodd eu trafod.
Owain Gwilym
Cyfarwyddwr Gweithredol
Mae Owain yn gyffrous i fod yn gwneud gwaith y Cyfarwyddwr Gweithredol i DAC, gan arwain y sefydliad. Mae wedi gweithio mewn swyddi sy’n ymwneud â’r celfyddydau ac anabledd ers degawd, ac mae’n eiriolwr cryf o blaid hygyrchedd a chydraddoldeb o fewn celfyddydau Cymru. Mae Owain yn falch o arwain tîm mor angerddol a phrofiadol ac mae wastad yn dysgu oddi wrthynt. Tu hwnt i DAC, mae Owain yn gerddor a chyfansoddwr y mae ei waith wedi ei gyhoeddi’n rhyngwladol, ac yn ymchwilydd ôl-raddedig mewn Ymarfer Creadigol a’r Argyfwng Hinsawdd ac yn aelod o fwrdd AM, platfform cyfryngau Cymru.
Rachel Stelmach
Swyddog Hyfforddiant A Chyllido
Mae Rachel wedi gweithio gyda DAC ers 2003, fel hyfforddwr cydraddoldeb anabledd llawrydd arbenigol yn y celfyddydau, yn gweithredu ar draws Cymru. Yn 2011, daeth yn Swyddog Maes Gorllewin Cymru, cyn dod yn swyddog ar dechnoleg creadigol a bellach mae’n gwneud gwaith hyfforddiant a chyllido. Mae’n cyflwyno hyfforddiant i sefydliadau y sector gelfyddydol ar draws Cymru, a hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer aelodau DAC. Mae’n cynnig cyngor cyllido i artistiaid, sy’n cynnwys budd-daliadau anabledd, Mynediad at Waith a cheisiadau grant ar gyfer projectau celfyddydol neu am resymau eraill. Mae Rachel yn parhau i ddarparu cymorth techengol a chyngor i artistiaid ar draws pob maes celfyddydol.
Sue Pound
Rheolwr Gweinyddol A Chyllid
Mae Sue wedi bod yn gweithio i Gelfyddydau Anabledd Cymru ers 2016, ac mae hi’n gweithio yn Swyddfa Caerdydd. Fel mae teitl ei swydd yn awgrymu, mae hi’n delio â Chyllid y sefydliad, yn ogystal â'r gwaith gweinyddol dydd i ddydd. Mae Sue yn goruchwylio’r gronfa ddata o aelodau, felly bydd pob aelod yn clywed ganddi o leiaf unwaith y flwyddyn pan maen nhw’n eu gwahodd i adnewyddu eu haelodaeth.
Ymddiriedolwyr
Sefydliad Wedi’i Arwain Gan Anabledd Yw DAC Ac Mae 80% O'n Hymddiriedolwyr Yn Hunanadnabod Yn Anabl/Byddar.
Dechreuom Weithredu Fel Sefydliad Elusennol Corfforedig Yng Ngwanwyn 2018 Ac Mae Bwrdd O Hyd At 12 Ymddiriedolwr Yn Ein Rheoli.
Natasha Hirst
Cadeirydd
Jenny-Joanna Bartholomew-Biggs
Dirprwy Gadeirydd
farah allibhai
Ymddiriedolwr
Chloë Clarke
Ymddiriedolwr
Daniel Hall
Ymddiriedolwr
Alun Llwyd
Ymddiriedolwr
Jon Luxton
Ymddiriedolwr
Prof David Turner
Ymddiriedolwr
Dominic Williams
Ymddiriedolwr
.