Tŷ Cerdd – Rheolwr Datblygu Artistiaid
Awdur: Tŷ Cerdd
Dyddiad cau ceisiadau: 12:00 canol dydd, Dydd Llun 29 Gorffennaf
Mae Tŷ Cerdd yn recriwtio Rheolwr Datblygu Artistiaid rhan amser, parhaol i ymuno â’n tîm staff bach ond deinamig.
Bydd deiliad y swydd yn llywio datblygiad rhaglen CoDi, gan ei goruchwylio a bod yn gyfrifol am ei chynnal, a hynny mewn cydweithrediad ag aelodau’r tîm, artistiaid a phartneriaid. Byddan nhw'n cynllunio gweithgareddau a’r llif gwaith gyda phartneriaid ac artistiaid, i gytuno ar fanylion technegol gydag aelodau’r tîm, llunio galwadau am artistiaid ac ysgrifennu deunydd cyfathrebu.
Mae’n addo i fod yn rôl gyffrous a deniadol a fydd yn rhoi’r cyfle i ddeiliad y swydd gysylltu’n uniongyrchol ag artistiaid ac i siapio gwaith ein sefydliad, gan chwarae rhan weithredol yn y sector cerddoriaeth Gymreig ehangach.
Mae rhagor o wybodaeth, yn ogystal â’r pecyn swydd, ar gael ar eu gwefan: Swydd: Rheolwr Datblygu Artistiaid