NTW: The City Socials

Awdur: National Theatre Wales

Dydd Iau 18 Awst, 6:30 yh at The Sustainable Studio, Caerdydd

Os oes angen cymorth arnoch i fynychu ee dehongli BSL, gofal plant neu gostau teithio, cysylltwch â Justin, ein Cydymaith Creadigol: justincliffe@nationaltheatrewales.org

Mae'r Sustainable Studio yn hygyrch i gadeiriau olwyn.

Cysylltwch â chyd-artistiaid a gweithwyr llawrydd sy'n gweithio ym myd y theatr

Mae The City Socials yn ddigwyddiad rheolaidd a gynhelir gan NTW TEAM. Maent yn ddigwyddiadau hwyliog a rhyngweithiol sydd wedi’u cynllunio i ddod ag artistiaid sy’n dod i’r amlwg ac ar ddechrau eu gyrfa a gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y theatr ynghyd i sgwrsio, rhannu, cwyno a thraethu.

Bydd cyfleoedd i bobl rannu meddyliau a syniadau, a chyflwyno gwaith newydd.

Rhannwch lwyddiannau a brwydrau adeiladu gyrfa yn y celfyddydau a dewch i adnabod eich cyd-gymuned. Drwy gydol y noson, gallwch ddisgwyl:

  • Perfformiad o'r newydd gan un o'n hartistiaid preswyl

  • Cyfleoedd rhwydweithio

  • Gweithdai cyffyrddiad ysgafn

Bydd bwyd a diodydd di-alcohol yn cael eu darparu i ysgogi sgwrs.

Mae croeso i chi alw heibio neu aros am y noson gyfan.

Rydym yn croesawu gweithwyr llawrydd newydd ac artistiaid o bob math ar ddechrau eu gyrfa.

Previous
Previous

Cyflwyniad Rhannu Clarion gan Aelod DAC Gareth Churchill yn Neuadd Gyngerdd Prifysgol Caerdydd

Next
Next

Tŷ Cerdd – Rheolwr Datblygu Artistiaid