Cyflwyniad Rhannu Clarion gan Aelod DAC Gareth Churchill yn Neuadd Gyngerdd Prifysgol Caerdydd

Dydd Mercher Gorffennaf 24 am 3 yp yn Neuadd Gyngerdd Prifysgol Caerdydd

Ymunwch ag aelod DAC Gareth Churchill am gyflwyniad rhannu am y prosiect cyffrous hwn.

Meddai Gareth:

Dros y misoedd diwethaf, diolch i gefnogaeth Camau Creadigol CCC, rydw i wedi bod yn cychwyn ar daith gyffrous iawn yn ôl i berfformio cerddorol.

I gyflawni hyn rydw i wedi bod yn creu gwaith gydag ac ar gyfer y clarion, offeryn cynorthwyol, digidol sydd wedi dod ataf ddiolch i Paraorchestra.

Mae'n bosib chwarae'r offeryn gyda chyn lleied o weithrediad corfforol â symudiadau llygaid person yn unig, ac wrth ddod yn chwaraewr clarion, rwy’n ymgeisio adfer rhywfaint o’r hyn a gollais fel oböydd, pan ges i nam corfforol 25 mlynedd yn ôl.

Ar 24 Gorffennaf, am 3 yp byddaf yn cynnal cyflwyniad rhannu yn Neuadd Gyngerdd Prifysgol Caerdydd lle byddaf yn cyflwyno'r clarion, yn arddangos gweithgaredd y prosiect ac yn rhoi fy mherfformiad clarion cyntaf. Rwyf wir yn gobeithio y gallwch ymuno â fi yn y digwyddiad cyffrous hwn a all creu newid arwyddocaol.

Previous
Previous

Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl a/neu Niwroamrywiol ymuno â chwrs ysgrifennu creadigol digidol 

Next
Next

NTW: The City Socials