Mae [per]mission to Play yn cyflwyno ‘Stop and Play’
Awdur: [per]mission to Play
Mae [per]mission to Play yn cyflwyno ‘Stop and Play’: Bydd grŵp rhyngwladol o artistiaid yn ymchwilio’n chwareus i lleo(edd) cyhoeddus Treganna
Ar gyfer ein prosiect ‘Stop and Play’ (sy’n rhedeg dydd Mawrth 9 - dydd Sul 14 Gorffennaf 2024) bydd [per]mission to Play yn Nhreganna yn archwilio, amlygu a thanseilio'n chwareus sut mae’r ddinas yn siapio ein hymddygiad, ein symudiadau a’n gweithredoedd mewn lleoedd cyhoeddus. Byddwn yn ymgysylltu â dulliau artistig ac ymchwil personol, sgyrsiau, ac arbrofi mewn gofod cyhoeddus.
Y tu allan i'n hamser yn archwilio mannau cyhoeddus byddwn wedi ein lleoli yn Chapter Arts.
Bydd ein canfyddiadau’n cael eu rhannu â’r cyhoedd trwy ddau ddigwyddiad rhad ac am ddim: taith cerdded gyfranogol a sgwrs am ein prosiect wrth rannu map.
Mae'r digwyddiadau yn gyfeillgar i deuluoedd, yn gyfeillgar i niwroamrywiaeth, ac yn gyfeillgar i'r gymuned LHDTC+.
Taith Cerdded Stop and Play
Rhad ac am ddim, 3:45 yp Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf (o gwmpas 1 awr.) Cwrdd yn Chapter Arts.
IAP: Claire Anderson
Tocynnau: https://www.ticketsource.co.uk/null/t-avmlejy
Sgwrs Stop and Play
Rhad ac am ddim, 4:00 yp Dydd Sul 14 Gorffennaf (o gwmpas 1 awr.) Yn Chapter Arts.
IAP: i gael ei gadarnhau.