Nodyn Atgoffa: Adnewyddu Aelodaeth

Y diwrnod olaf i adnewyddu eich aelodaeth gyda DAC yw’r 30ain o Fehefin, 2024.

Os nad ydych wedi adnewyddu erbyn hynny, yn anffodus bydd yn rhaid i ni eich diddymu fel aelodau DAC (hyd nes y byddwch yn dewis ymuno eto).

Rydym yn rhoddi £1 ar ran pob aelod sy’n adnewyddu i UNICEF er mwyn cefnogi ei gwaith yn amddiffyn plant yn Gaza. Gwyddom fod llawer o’n haelodau yn awyddus i gyfrannu ond efallai nad ydynt mewn sefyllfa i wneud hynny oherwydd bod yr Argyfwng Costau Byw wedi effeithio pobl anabl yn anghyfartal.

Rydym yn adnewyddu aelodaeth yn flynyddol i barhau i gydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU [GDPR] ac i wneud yn siŵr bod ein rhestr o aelodau yn gyfredol.

Gallwch adnewyddu eich aelodaeth trwy lenwi'r ffurflen aelodaeth hon.

Os ydych wedi adnewyddu yn barod, does dim rhaid gwneud unrhyw beth arall.

Mae 2024/25 yn flwyddyn gyffrous iawn i’r sefydliad. Diolch am gyllid aml-flwyddyn llwyddiannus gan Gyngor Celfyddydau Cymru, bydd DAC yn fuan yn cyhoeddi cyfleoedd cyffrous iawn i artistiaid ym mhob ffurf gelfyddydol, drwy gydol y flwyddyn.

- Mae aelodaeth am ddim i bobl anabl, niwroddargyfeiriol neu Fyddar sy'n hunanddatgelu yng Nghymru.

- Mae aelodaeth yn £10 ar gyfer pobl anabl, niwroddargyfeiriol neu fyddar sy'n hunanddatgelu y tu allan i Gymru.

- Mae aelodaeth yn £10 i bobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru.

Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio yn 2024/25!

Previous
Previous

Arddangosfa Artist DAC Tina Rogers yn RCA Conwy

Next
Next

Artist y Mis: Leila Bebb