Artist y Mis: Leila Bebb

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni'n tynnu sylw at waith anhygoel un o'n haelodau.

Artist y Mis ar gyfer mis Mehefin yw Leila Bebb!

“Rydw i’n byw yn Abertawe ac mae gen i stiwdio mewn Elysium yn agos i fy fflat. Rydw i’n gweithio mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys arlunio, peintio a gwau. Mae’r tirlun, arlunio o fywyd, ac anifeiliaid yn cynnwys gorilaod ac adar ffantastig yn fy ysbrydoli fi. Mae gwaith Pablo Picasso a Jackson Pollock yn cael dylanwad arnaf i. Rydw i’n caru lliw ac yn fy stiwdio rydw i’n gweithio o’r darluniau trwy ddefnyddio peint acrylig neu wlân lliwgar llawn gweadau ar gyfer y darnau gwau. Mae’r gwaith yn aml yn haniaethol ei natur. Rydw i hefyd yn ddawnsiwr ac yn ysgrifennwr ac rydw i’n dosbarthu fy ngwaith rhwng ysgrifennu, dawnsio a gweithio yn fy stiwdio.”

Ar hyn o bryd mae Leila yn arddangos gwaith yn yr Arddangosfa Tecstilau Rhyngwladol: Cofio'r Gorffennol: Creu'r Dyfodol yn Oriel Queen Street, Castell-nedd. Mae’r arddangosfa yn cynnwys dros 80 o weithiau celf tecstilau o 13 o wledydd gwahanol ac mae'n rhedeg o 17 Mai - 15 Mehefin 2024.

Previous
Previous

Nodyn Atgoffa: Adnewyddu Aelodaeth

Next
Next

Arddangosfa Deithiol Caitlin Flood-Molyneux ‘Going Away, In Order to Return’