Live Music Now: Dwy Swydd Wag Newydd yn eu Tîm Cymru
Mae Live Music Now yn cyflogi Rheolwr Prosiect a Rheolwr Codi Arian Corfforaethol ar gyfer eu Tîm Cymru.
Mae Live Music Now yn elusen sydd wedi bod yn gweithio ac ymgyrchu ers 1977 i gael effaith gymdeithasol gynhwysol a mesuradwy drwy gerddoriaeth. Drwy ddefnyddio pŵer cysylltiol cerddoriaeth a gwerthuso ei heffaith, rydym yn datblygu ymarfer cerddorol ac yn newid sut rydym yn deall ac yn cynorthwyo pobl sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol a phobl fregus yn ein cymdeithas. Mae ein gwaith yn gwella ansawdd bywyd, iechyd a lles ac yn hyrwyddo cyfle cydradd drwy gydnabod potensial creadigol pob unigolyn.
Mae Live Music Now’n ymrwymedig i fod yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac o ganlyniad rydym yn annog ceisiadau gan bobl sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol yn y sector diwylliannol ac yn ein sefydliad, gan gynnwys pobl sy’n wynebu rhwystrau o anabledd neu sydd wedi profi hiliaeth.
Caiff pob ymgeisydd Anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol gyfweliad. Caiff ymgeiswyr ar y rhestr fer gyfle i drafod eu gofynion mynediad ar gyfer y cyfarfod.
Croesewir darpar ymgeiswyr i alw’r Rheolwr Llinell sy’n recriwtio, Cyfarwyddwr Live Music Now Cymru, Jen Abell, gydag unrhyw ymholiadau am y rôl hon cyn gwneud cais, neu os hoffech gyflwyno’ch ymatebion mewn fformat gwahanol. Ffoniwch ar 07549 341 316 neu e-bostiwch jennifer.abell@livemusicnow.org.uk.
Rheolwr Prosiect
Math o swydd:
Rhan amser, 4 diwrnod, 30 awr yr wythnos. Mae Live Music Now Cymru yn fodlon ystyried rhannu’r swydd hon. Nodwch hyn ar eich llythyr esboniadol os taw dyma’ch dewis, gan gynnwys nodi pryd rydych ar gael i weithio.
Graddfa Gyflog: £28,000 (pro rata)
Lleoliad: Yn bennaf yn swyddfa Live Music Now Cymru, Bae Caerdydd, gydag opsiwn i weithio diwrnod yr wythnos o gartref.
Dyddiad cau: 9yb, Dydd Llun 1 Gorffenaf
Sut i Wneud Cais:
Cliciwch yma i ddarllen y disgrifiad swydd lawn a manyleb y person.
Uwchlwythwch eich CV a llythyr esboniadol yn nodi sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf i’r ddolen hon: https://www.surveymonkey.com/r/PM_app_Cymru2024
Rheolwr Codi Arian Corfforaethol
Math o swydd:
Rhan amser, 0.6 CALl (3 diwrnod yr wythnos, 7.5 awr y diwrnod) fel arfer 9-5.30. Ystyrir gweithio hyblyg. Tymor sefydlog o 2 flynedd, gyda golwg ar swydd hirdymor os caiff targedau eu bwrw.
Graddfa Gyflog: £27,000-30,000 pro rata. Dibynnu ar brofiad/cymhwysedd.
Lleoliad: Yn ddelfrydol, rôl swyddfa yw hon, yn swyddfa Live Music Now Cymru yn Nhŷ Portland, Bae Caerdydd. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried penodi ymgeisydd â hanes o godi incwm a bwrw targedau yn unrhyw ran o Gymru.
Dyddiad cau: 9yb, Dydd Llun 8 Gorffenaf
Sut i Wneud Cais:
Cliciwch yma i ddarllen y disgrifiad swydd lawn a manyleb y person.
Uwchlwythwch eich CV a llythyr esboniadol yn nodi sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf i’r ddolen hon: https://www.surveymonkey.com/r/CFRM_app_Cymru2024