Gweithdai Cymru Anabl - LLyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Cymru Anabl yn brosiect blwyddyn sy’n canolbwyntio ar wella hygyrchedd casgliadau ffilm a fideo Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ogystal â gwella cynrychiolaeth gwneuthurwyr ffilm anabl a Byddar ynddynt.
Mae Cymru Anabl yn brosiect gan Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â DAC, TAPE a Hijinx, gyda chefnogaeth cronfa Treftadaeth Sgrin Loteri Genedlaethol y BFI.
Ydych chi’n ystyried eich hunan yn anabl neu’n Fyddar? Oes gyda chi diddordeb mewn ffilm, hanes ac archifau? Ydych chi’n diddori ym materion o gynrychiolaeth a hygyrchedd?
Os ydych, ymunwch â staff Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol am weithdy rhyngweithiol lle gewch chi:
· Gwylio clipiau o hen ffilmiau Cymreig sy’n ymwneud ag anabledd a’r gymuned Fyddar,
· Trafod beth sy’n bwysig i chi am gynrychiolaeth a hygyrchedd,
· Dweud eich dweud sut beth fyddai’r archif ffilm ddelfrydol.
Bydd y gweithdai’n cael eu cynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Rydym yn ymdrechu i drefnu dehonglwyr BSL ar gyfer y gweithdai. Bydd egwylion yn ystod y gweithdai a lluniaeth ysgafn ar gael.
Pryd a Lle
CAERDYDD: Chapter Arts Centre
1pm-4pm, 11 Mehefin
Bydd dehongli BSL gan Cathryn McShane.
Mae’r ystafell lle bydd y gweithdy’n cael ei gynnal ar lawr gyntaf yr adeilad. Mae yno lifft ar gael i'w gyrraedd. Mae cyfleusterau hygyrch a niwtral o ran rywedd ar gael.
Dyma fanylion hygyrchedd a theithio Chapter.
CAERFYRDDIN: Yr Egin
2pm-5pm, 12 Mehefin
Mae’r ystafell ar lawr gwaelod yr adeilad. Mae cyfleusterau hygyrch ar gael.
Dyma fanylion hygyrched a theithio Yr Egin.
ABERYSTWYTH: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
2pm-5pm, 18 Mehefin
Mae’r ystafell ar lawr gwaelod yr adeilad. Mae cyfleusterau hygyrch ar gael.
Dyma fanylion hygyrchedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
HEN GOLWYN: TAPE Community Music and Film
2pm-5pm, 20 Mehefin
Mae cyfleusterau hygyrch ar gael.
Dyma fanylion hygyrchedd a theithio TAPE.
Manylion pellach
Mae modd i ni dalu costau teithio yn ôl i chi gyn belled bod y daith yn un lleol.
Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn y gweithdai yn derbyn taleb stryd fawr werth £10.
Bydd gweithdy ychwanegol yn cael ei gynnal ar-lein hefyd (dyddiad i’w gadarnhau) i unrhyw un sydd methu mynychu un o’r rhain.
Cofrestru
I gofrestru ar gyfer gweithdy, os gwelwch yn dda cysylltwch gyda Nia: nia.edwards-behi@llyfrgell.cymru. Yn eich neges, nodwch:
· Eich enw
· Eich cyfeiriad e-bost a/neu rif ffon
· Pa leoliad hoffwch fynychu
· Unrhyw anghenion mynediad penodol
· Unrhyw anghenion dietegol penodol