No Word: Arddangosfa Unigol A Thaith BSL Aelod DAC Lianne Morgan
Dyddiad: Sadwrn 20 Gorffennaf
Amser: 12 yp - 2 yp
Dehongliad IAP: Emily Corby, Our Visual World
Bydd yr Oriel Gelf Ganolog yn Y Barri a’r artist Lianne Morgan yn gweithio mewn partneriaeth â rhwydwaith ‘Our Visual World’ Caerdydd i gyflwyno taith Iaith Arwyddion o’r arddangosfa Dim Gair yn yr Oriel Gelf Ganolog dan arweiniad artist Byddar sydd wedi'i hyfforddi'n broffesiynol, sef Emily Corby.
Mae'r daith a'r sgwrs wedi'i chynllunio ar gyfer cynulleidfaoedd Byddar a bydd yn rhoi trosolwg o'r gwaith sy'n cael ei arddangos a mewnwelediad i ymarfer a chefndir yr artist. Bydd yr artist Lianne Morgan yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau am ei hymarfer, ei phrosesau a'i gwaith sy'n cael ei arddangos. Bydd y daith hamddenol yn cael ei chyflwyno yn Iaith Arwyddion Prydain. Mae croeso i fynychwyr aros ar ôl y sgwrs a chymryd rhan mewn sesiwn ymateb i'r gwaith gan ddefnyddio pa bynnag gyfrwng y maent yn ei ddewis, bydd papur a phinnau yn cael eu darparu.
Dechreuodd Lianne Morgan, yr artist sy'n cael ei harddangos, ei thaith Celfyddyd Gain drwy ddelweddu sain, a throsi sain i fod yn weledol. Dywedodd Lianne:
“Nid geiriau yw'r unig modd rydyn ni'n cysylltu neu'n cyfathrebu, rydyn ni'n cysylltu ac yn cyfathrebu trwy'r iaith gyffredin o ddirgryniad ac amledd. Y gofod negyddol yw lle mae'r rhwydweithiau, y cysylltiadau a'r cyfathrebu'n digwydd, nid yw'r llygad dynol yn cael ei ddatblygu i'w ddadgodio a'i ddelweddu, ac fel artist, dyma fy amcan.”
Meddai Lianne:
“Trwy golli fy llais fy hun, dechreuais brofi synesthesia. Mae synaesthesia yn gyflwr lle mae rhywun yn profi pethau trwy eu synhwyrau mewn ffordd anarferol, er enghraifft, lliw fel sain, cerddoriaeth fel lliw, neu rifau fel safleoedd arbennig. Des i'n ymwybodol bod cyfathrebu di-eiriau ac anghlywadwy yn digwydd yn y gofod o'n cwmpas ac oddi mewn i ni. Mae fy mhroses gelf yn seiliedig ar fy mhrofiad o gyfathrebu synhwyrol, corffedig o fewn yr amgylchedd ffisegol trwy symudiad cellog a moleciwlaidd, dirgryniad a sain.”
Dwedodd Caerdydd Creadigol:
“Mae Lianne yn creu rhai o'r delweddau esthetig harddaf rydyn ni wedi'u gweld ers amser maith. Ei sgil unigryw yw ei gallu i ddal yr hud etheraidd sydd o'n cwmpas. Gall gyfleu pethau, a damcaniaethau; a datgelu'r da, y drwg, a'r hyll gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau a ffurfiau celf megis sain, ffilm, paent, a cherfluniau a fydd yn agor dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth i greu cymdeithas fwy empathig.”