David Thorpe
Gyda thristwch rydym yn rhannu’r newyddion am farwolaeth David Thorpe. Roedd David yn awdur, amgylcheddwr ac yn aelod o Gelfyddydau Anabledd Cymru.
Cyfrannodd yn sylweddol at ddiwylliant poblogaidd, gan gynnwys creu ‘Earth 616’ – y byd ffuglen lle cynhelir ffilmiau Marvel – ac ailddyfeisio Capten Britain yn Marvel Comics. Trosglwyddwyd ei gariad at natur i'r tudalennau comig trwy’r darlun o ynni adnewyddadwy ac effeithiau newid hinsawdd.
Mae rhai enghreifftiau pellach o waith cyrhaeddbell David yn cynnwys cyfraniadau i’r gyfres ‘Earthscan Expert’, sef casgliad enwog o lyfrau ar dechnolegau carbon isel, ac ef oedd y golygydd newyddion ar gyfer cylchgrawn ‘Energy and Environmental Management’, ar gyfer Adran y DU ar gyfer Yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
Fe gafodd David effaith sylweddol wrth godi proffil amgylcheddaeth ddiwylliannol ac academaidd.
Roedd David yn un o’r awduron ar garfan 2023 o gwrs ysgrifennu Ailddyfeisio’r Protagonist, menter ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru, Katie O’Reilly, a Chelfyddydau Anabledd Cymru.
Bu farw yn dangnefeddus ar y 25ain o Ebrill yn Barcelona, yn 69 oed.
Gallwch ddarllen am waith David ar ei wefan: https://davidthorpe.info/