Artistiaid DAC ar Sky Arts Painting Birds with Jim and Nancy Moir
Gwahoddwyd artistiaid DAC Phillippa Walter, Sara Louise Wheeler a Cerys Knighton i gymryd rhan yn y gyfres Sky Arts Painting Birds with Jim and Nancy Moir!
Ymwelodd Jim a Nancy ag arddangosfa deithiol Gwobr Celfyddydau DAC, Aildanio, tra’r oedd yn Tŷ Pawb, Wrecsam, lle buont yn edrych ar waith yr artistiaid ac yn cymryd rhan mewn gweithdy argraffu leino a gynhaliwyd gan Phillippa Walter.
Bydd y bennod yn cael ei darlledu ddydd Mercher nesaf 29ain o Fai o 9 - 10yh ar Sky Arts, sianel Freeview 36.