Cheryl Beer: Offeryniaeth Gynhwysol: Rhan 3 o 4
Mae aelod DAC Cheryl Beer wedi postio Rhan 3 mewn cyfres o bedair blog dwyieithog am Offeryniaeth Gynhwysol. Gwnaeth Cheryl gais i Gamau Creadigol i archwilio’r posibiliadau ar gyfer ffordd gynhwysol o drefnu Symffoni'r Coedwigoedd Glaw, Cân y Coed.
Dywedodd Cheryl:
Ers fy mlog diwethaf, mae'r Pumawd wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd yn stiwdio Delyth i ddysgu ein fersiwn a olygwyd ac a addaswyd o Symffoni'r Coedwigoedd Glaw Cân y Coed. Efallai y byddwch wedi darllen yn fy mlogiau blaenorol fod Delyth a minnau wedi treulio amser gyda'n gilydd yn sgorio'r darn fel y bydd yn gynhwysol. Fe’i trefnom ar gyfer pumawd o chwaraewyr recorders bas fel bod fy nghyfansoddiad yn gydnaws â cholli fy nghlyw, tinitws a hyperacusis. Yna anfonom y sgôr gerddoriaeth at Lloyd Coleman am ei adborth. Mae Lloyd yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Cysylltiol y Baragerddorfa ac yn 2il fentor i mi ar y prosiect.
Darllenwch Ran 3 yn llawn yma.
Gallwch dal lan gyda Rhan 2 yma, gyda Rhan 1 yma.
Gallwch hefyd gysylltu â Cheryl yma.