Artist y Mis Awst: Gareth Churchill

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni'n tynnu sylw at waith anhygoel un o'n haelodau.

Credyd Delwedd: Matthew Thistlewood

Artist y Mis ar gyfer mis Awst yw Gareth Churchill!

Mae Gareth Churchill yn gyfansoddwr, artist cydweithredol, athro cerdd, a bellach yn chwaraewr clarion. Mae’n athro cerdd i Ddysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd, ac mae wedi bod yn aelod o Baraorchestra ers 2018.

Hyfforddodd yn wreiddiol fel oböydd, a bu’n ffodus i chwarae ar lefel broffesiynol, cyn i strôc ei adael â namau gwybyddol, synhwyraidd a chorfforol yn 20 oed. Ailgyfeiriodd hyn ei lwybr tuag at gyfansoddi.

Fel cyfansoddwr, mae sain ei gerddoriaeth wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ei brofiad byw personol, o’r rhyngweithio rhwng y mecanyddol â’r organig, ac, yn aml gydag agwedd hunangofiannol, mae ei waith yn ceisio rhoi llais cerddorol a mynegiant artistig i brofiadau byw eraill.


Grinding (2020) ar gyfer lleisiau gwrywaidd a phiano, cafodd ei greu yn ystod y cyfyngiadau symud mewn cydweithrediad â Chorws Dynion Hoyw De Cymru. Mae’n cymryd fel man cychwyn profiadau dynion hoyw yn ne Cymru ar raglenni dating, a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ysbrydoliaeth y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol.

Trepanator (2023) i’r soprano a’r obo a gafodd ei hysbrydoli gan Bore Hole, cofiant hunan-trepanation arloesol Joe Mellen. Wedi’i greu mewn cydweithrediad â Wellcome Collection, mae’r gwaith yn archwilio hanes a diwylliant drilio twll ym mhen person byw.

Mae The 9 Fridas yn brosiect parhaus sy’n addasu testun perfformiad Kaite O’Reilly i theatr gerddorol ddramatig, gyda’r bwriad o adennill a dathlu Frida Kahlo fel eicon anabledd. Dechreuodd y prosiect fel comisiwn ymchwil a datblygu Unlimited yn 2021, a hwylusodd grant creu CCC ail gam datblygu yn 2023. Yr un flwyddyn, cyflwynodd cynllun datblygu artistiaid mewnol ym Mharaorchestra Gareth i’r clarion, sef offeryn cerdd ddigidol hygyrch.

Clarion Call ar ôl gweld potensial y clarion ar unwaith, archwiliodd Gareth a derbyniodd gyllid camau creadigol gan CCC i gychwyn ar daith yn ôl i berfformio cerddorol a thros y misoedd diwethaf mae wedi bod yn archwilio creu gwaith gyda’r clarion ac ar ei gyfer. Arweiniodd hyn at rannu cyflwyniad a pherfformiad unigol byw cyntaf Gareth yn Neuadd Gyngerdd Prifysgol Caerdydd ar 24/07/24.

Wrth gychwyn ar fy nhaith gyda’r clarion, roeddwn yn ymgeisio adennill rhywfaint o’r hyn a gollais fel oböydd, pan gefais fy strôc. Ni all geiriau ddisgrifio'r llawenydd o berfformio o flaen cynulleidfa eto ar ôl cymaint o flynyddoedd, a theimlaf yn benderfynol o geisio sefydlu fy hun fel cyfansoddwr/perfformiwr, gan wreiddio’r clarion yn fy ngwaith dyfodol a, dwi'n gobeithio, fy ngwneud i'n hesbonydd blaenllaw o’r offeryn.

Darnau perfformiad byw:

Maxime https://youtu.be/w6wKC5wgLT4

(Something) Old, New, Borrowed, Blue https://youtu.be/T2pUOT_3WPs

Treharris https://youtu.be/fG0wTRpM_TQ

Happy Camper https://youtu.be/bpETmL4uelc

Dysgwch fwy am waith Gareth ar gyfryngau cymdeithasol:

Twitter @GarethChurchill

Facebook: Gareth Churchill

Instagram: @g4rethchurchill

Previous
Previous

Hygyrchedd yn Neuadd y Frenhines Arberth yn addas ar gyfer y dyfodol diolch i Gronfa Gwella Sir Benfro

Next
Next

Ffilm Aildanio gan Culture Colony!