Arddangosfa Môr gydag Artist DAC Catrin Gwylim yn Pontio, Bangor

Llongyfarchiadau i Artist DAC Catrin Gwylim sydd yn arddangos waith yn Arddangosfa Môr Pontio!

Mae’r arddangosfa yn agor ar Ddydd Sadwrn 8 Mehefin i gyd-fynd â Diwrnod Cefnforoedd y Byd. Bydd yr arddangosfa yn barhau hyd 7 Gorffennaf.

Awdur: Pontio

Ar ddechrau'r flwyddyn, fe wneaethom rannu galwad agored am weithiau celf ar y thema 'Môr' i gyd-fynd â Diwrnod Cefnforoedd y Byd ar Ddydd Sadwrn 8 Mehefin.

Mae’r amser wedi dod, ac rydym wrth ein bodd yn cyflwyno’r arddangosfa hon mewn cydweithrediad ag Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor. Mae'n cyfuno ystod eang o safbwyntiau ar y môr drwy ffilmiau, printiau, paentiadau, cerfluniau, cerddi, ac arbrofion â deunyddiau. Mae'r darnau’n cynnwys safbwyntiau amgylcheddol a mwy-na-dynol, cyfeiriadau mytholegol a hanesyddol yn ogystal â darlleniadau dychmygol. O adar môr a chrancod i greigiau llithrig a morgloddiau, mae yna ddehongliadau bywiog o bynciau fel bioamrywiaeth, newid hinsawdd a byrhoedledd ein cynefinoedd arfordirol lleol.

Artistiaid a chyfranogwyr:
Jess Balla, Angela Davies, Guto Davies, Kirsti Davies, Alex Duncan, Jane Evans, Catrin Gwilym, Sarah Holyfield, Helen Howlett, Hedydd Ioan, Mari Huws, Nader Kobo, Esyllt Lewis Montenegro Fisher, Aoife Muckian, Alison Neighbour, Clara Newman, Emyr Owen, Ben Powell, Meggan Lloyd Prys, Mared Rees, Vivian Ross-Smith, Criw Skye, Jonty Storey, Meic Watts, Iestyn Tyne, Zoë Skoulding

Previous
Previous

Cheryl Beer: Offeryniaeth Gynhwysol: Rhan 2 o 4

Next
Next

Arddangosfa Artist DAC Tina Rogers yn RCA Conwy