MODULATE // TRAWSGYWEIRIO
Wedi galwad agored poblogaidd, mae Celfyddydau Anabledd Cymru wedi dewis yr 8 Cerddor a’r Gweithwyr Diwydiant Cerddoriaeth Anabl rhwng 18-30 fydd yn rhannu eu hangerdd, sgiliau, anghenion a dyheadau er mwyn helpu creu’r cynllun Datblygu Cerddoriaeth cyntaf ar gyfer Pobl Ifanc Anabl : Trawsgyweirio.
Panel Modulate / Trawsgyweirio
-
Laura Moulding
Fy enw i yw Laura Ann Moulding, a dwi’n rhan o’r project Trawsgyweirio. Graddiais yn ddiweddar o’r cwrs MA Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu. Tu hwnt i gerddoriaeth, rwy’n eiriolwr iechyd meddwl ac ME/CFS. Dwi’n angerddol am ysgrifennu caneuon, chwarae sacsoffôn, ac annog pobl eraill gydag anableddau i ymuno â’r diwydiant cerddoriaeth.
-
Jake Renwick
Helo, Jake Renwick ydw i. Dwi’n 20 mlwydd oed, a dwi’n byw ger Abergele yng Ngogledd Cymru. Ar hyn o bryd dwi’n astudio Technoleg Cerddoriaeth Lefel 3, a fy niddordebau yw mynd i’r gampfa, dysgu gitâr, sioe gerdd a chwarae gemau. Dwi’n byw gyda hydroceffalws, oedi datblygiad hollgynhwysol ac anabledd dysgu - ond dydyn nhw ddim yn fy nal i nôl!
-
Joshua Whyte
Cerddor a gwyddonydd cyfrifiadureg yw Joshua Whyte. Mae Blank Face, ei gynfas cerddorol, yn asio gwahanol synau fel Hip Hop, Rnb, Trap Soul, Afro a Gospel. Wedi’i eni a’i fagu yn Nigeria, mae Blank Face hefyd yn gyw-gynhyrchydd gyda The Democracy Box, casgleb sy’n tyfu sy’n bartneriaid gyda’r Comisiwn Etholiafol a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae Joshua yn ddeiliad gradd israddedig mewn Cyfrifiadureg o Brifysgol Caerdydd.
-
Ruth Potts
Mae Ruth yn chwarae’r fiola a’r fiolin, ac mae’n byw yng Nghaerdydd. Mae’n perfformio fel aelod o gast ELO AGAIN, mae’n aelod o’r gerddorfa Paraorchestra ac yn rheoli ac yn perfformio gyda phedwarawd Fleur ac fel unawdwr. Ynghyd â hyn mae’n perfformio’n llawrydd mewn sawl cerddorfa. Mae wedi astudio’r fiolin a’r fiola yn RWCMD.
-
Rebecca
Myfyriwr cerddoriaeth yn ei blwyddyn olaf yw Rebecca o Gaerdydd. Mae’n chwarae chwythbrennau ac mae ganddi brofiad helaeth o ran Amrywiaeth a Chynhwysiant o fewn y sector celfyddydau creadigol. Mae’n edrych ymlaen i fod ar fwrdd TRAWSGYWEIRIO ac yn gobeithio y bydd pethau cyffrous ar y gorwel!
-
Elin Angharad
Cerddor a pherson creadigol sy’n niwrowahanol ac yn dioddef o salwch cronig. Mae hi’n gredwr cryf mewn ymryddhau a chyfiawnder, mae’n ceisio codi pobl anabl eraill sy’n creu drwy gyfrwng ei gweithgarwch. Mae Elin yn aelod o fforwm ieuenctid Anthem ac wedi cyfrannu at ystod o brojectau cyfranogi i bobl ifanc.
-
Sam Richardson
Helo, fy enw i yw Sam, dwi’n 21 oed ac yn dod o Carlisle. Dwi yn fy mlwyddyn gyntaf yn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd. Fy mhrif offeryn yw’r gitâr fâs, ond dwi hefyd yn mwynhau chwarae gitâr acwstig. Dwi’n edrych ymlaen i archwilio cerddoriaeth mewn awyrgylch cynhwysol a chefnogol, a dod i adnabod pobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg i mi.
-
Rhiannon Barber
Mae Rhiannon yn hoffi dangos y gall cerddoriaeth fod ar gael i bawb, beth bynnag fo’ch gallu, felly mae’n creu caneuon gyda’i llaid a gorsaf lŵpio yn unig. Ar hyn o bryd mae’n perfformio mewn gwyliau, tafarndai a chorneli stryd ar draws Cymru ac mae ei cherddoriaeth wedi cael ei chwarae ar Radio BBC Introducing Cymru.
-
Mae’r rhaglen yn rhedeg mewn dwy ran - cyfnod ymgynghori lle fydd y grŵp yn cynllunio rhaglen i siwtio eu diddordebau, ac yna cyfres o weithdai ar y themâu rydym wedi bod yn eu trafod, gan gydweithio â cherddorion ac arbenigwyr o’r diwydiant cerddoriaeth er mwyn dysgu rhagor. Os hoffech wybod mwy am Trawsgyweirio, neu fod yn rhan o’r cynllun yn y dyfodol, cysylltwch: Rosey@dacymru.com