Cyfrannu Offer

A oes gennych unrhyw offer neu ddeunyddiau celfyddydol y gall artistiaid anabl yng Nghymru eu defnyddio i gynhyrchu gwaith?

Mae ein haelodau yn cynnwys ffotograffwyr, peintwyr, actorion, ysgrifenwyr, cerddorion, gweithredwyr, artistiaid sain, technolegwyr creadigol a phopeth yn y canol. Rydym yn chwilio am unrhyw eitemau o offer neu ddeunyddiau sy'n gysylltiedig â'r meysydd hyn.

Os ydych yn aelod o Gelfyddydau Anabledd Cymru yn chwilio am offer a roddwyd, cliciwch yma

Defnyddiwch ffurflen newydd am bob cyflwyniad.