Swydd Wag: Reolwr y Swyddfa Docynnau a Mewnwelediadau Cynulleidfaoedd yn Theatr y Sherman

Awdur: Theatr y Sherman

Dyddiad cau: Hanner dydd - ar Ddydd Gwener 12 o Orffennaf 2024
Interviews: Dydd Gwener 19 o Orffennaf 2024

Rydyn ni’n chwilio am Reolwr y Swyddfa Docynnau a Mewnwelediadau Cynulleidfaoedd er mwyn helpu Theatr y Sherman i gyflawni ei nodau busnes, drwy ddefnyddio eu hangerdd dros wasanaethu cynulleidfaoedd i gyflawni gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a mewnwelediadau dadansoddol.

Rydyn ni’n chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol yng ngwaith y Swyddfa Docynnau i ymuno â'n tîm angerddol, arbenigol ac ymroddedig tu hwnt fel Rheolwr y Swyddfa Docynnau a Mewnwelediadau Cynulleidfaoedd. Mae hon yn rôl uwch yn y tîm Marchnata a Chyfathrebu sy'n canolbwyntio ar ddyfnhau ein perthynas â'n cynulleidfaoedd ar yr un pryd â chynhyrchu incwm a sicrhau’r incwm gorau posib.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgorffori rhagoriaeth wrth reoli systemau a phobl, gwasanaethau cwsmeriaid a chynhyrchu incwm. Rydym yn awyddus iawn i weld sut y gall yr unigolyn llwyddiannus helpu ein sefydliad i dyfu.

Rydyn ni eisiau i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae’n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Rydym felly’n croesawu’n arbennig ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau b/byddar ac anabl sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein tîm ar hyn o bryd.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.

I wneud cais am y swydd, llwythwch y pecyn cais, y ffurflen gais a'r ffurflen monitro cyfle cyfartal yma: https://www.shermantheatre.co.uk/job/rheolwr-y-swyddfa-docynnau-a-mewnwelediadau-cynulleidfaoedd/?lang=cy

Os gwelwch yn dda danfonwch y ffurflenni wedi'u cwblhau i: recruitment@shermantheatre.co.uk

Cyllidir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.

Previous
Previous

Mentora - Cult Cymru

Next
Next

Trosfeddiant Ysgrifenwyr Aberystwyth a Ymyleiddiwyd