Cyhoeddi Gwobrau Partneriaid y DU a Rhyngwladol Unlimited ar gyfer Artistiaid Anabl
Awdur: Unlimited
Mae Unlimited yn partneru â 12 sefydliad yn y DU i gynnig 17 gwobr i artistiaid anabl. Bydd y gwobrau hyn yn cynnig cyfanswm o £628,000 i gomisiynu artistiaid ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Nod Unlimited yw comisiynu gwaith eithriadol gan artistiaid anabl, nes bod y sector ddiwylliannol yn ei chyfanrwydd yn gwneud hynny. Bydd y gwaith hwn yn newid ac yn herio’r byd. Fel comisiynydd mwyaf artistiaid anabl yn fyd-eang, rydyn ni wedi ymrwymo i’r gwaith hwn ers 2013.
Eleni, rydyn ni’n canolbwyntio ar waith celf sy’n ymgysylltu â chymunedau mewn ffyrdd ystyrlon, yn herio canfyddiadau’r gynulleidfa, ac yn ehangu gwelededd artistiaid anabl. Rydyn ni’n chwilio am brosiectau sydd wedi’u cynllunio i gael eu gweld, ac sy’n cynnig profiadau deinamig a rhyngweithiol i gynulleidfaoedd eang.
Mae gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws y sector ddiwylliannol yn allweddol i’n nod hir dymor – o beidio â bodoli. Gyda’n gilydd ein nod yw cefnogi artistiaid anabl i greu gwaith newydd sy’n swyno, yn ysbrydoli, ac yn meithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad dyfnach.
Mewn partneriaeth â’r British Council, rydyn ni’n cynnig pum Gwobr Ryngwladol o hyd at £50,000 i artistiaid gydweithio ar draws y byd.
Mae’r partneriaid a leolir yn Lloegr yn cynnwys: Bradford 2025 UK City of Culture a Bradford Metropolitan District Council,Liverpool Biennial, Norfolk and Norwich Festival, Rhaglen Ddiwylliannol Prifysgol Rhydychen, Sadler’s Wells, Southbank Centre, a Wellcome Collection. Yn yr Alban: Imaginate a Summerhall Arts. Yng Nghymru: Celfyddydau SPAN a Tŷ Pawb.
Drwy gefnogaeth gan Arts Council England, Cyngor Celfyddydau Cymru a Creative Scotland, mae’n bleser gennym gynnig 12 gwobr yn y DU, yn amrywio o £15,000 i £60,000. Bydd y gwobrau hyn yn cefnogi creu gwaith newydd eithriadol drwy gelfyddydau cyfunol, dawns, perfformiad byw, celfyddyd awyr agored, gwaith sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol, celfyddydau gweledol a mwy.