Cwrdd Gorffennaf - 'Legless in London' a Chanllawiau Dylunio Gêm Hygyrch

Dydd Mawrth 2 Gorffenaf, 5-6 yp ar Zoom

Capsiynau: Laura Harrison

IAP: Cathryn McShane

Clywch o Dr Ryan Sweet am sut y bu’n cydweithio â phobl anabl i greu’r gêm fwrdd newydd hon, yn seiliedig ar bobl Fictoraidd y cafodd eu coesau eu trychu, ynghyd â’r canllawiau ar gyfer dylunio gêm fwrdd cynhwysol.

Mae’r Prosiect Gêm Bwrdd Cynhwysol (2023-24) yn gydweithrediad rhwng ymchwilydd academaidd, Ryan Sweet (Uwch Ddarlithydd yn y Dyniaethau, Prifysgol Abertawe), cwmni gemau, Focus Games Ltd, a grŵp ffocws o aelodau o’r gymuned anabl (gan gynnwys Rachel Stelmach o Gelfyddydau Anabledd Cymru). Mae’r prosiect wedi cynnwys dylunio gêm fwrdd cynhwysol wedi’i hysbrydoli gan lyfr Ryan 'Prosthetic Body Parts in Nineteenth-Century Literature and Culture' (2022) a set o ganllawiau hygyrchedd ar gyfer gwneuthurwyr gemau bwrdd. Teitl dros dro am brototeip y gêm bwrdd a gynhyrchwyd gan y prosiect yw "Legless in London". Ariennir y Prosiect Gêm Fwrdd Cynhwysol gan Gyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Cwrdd ar gyfer i gyd o'n haelodau. Mae digwyddiadau Cwrdd yn cael eu cynnal bob Dydd Mawrth cyntaf y mis o 5-6 yp ar Zoom. Mae’n gyfle i gwrdd ag aelodau DAC, rhannu eich gwaith, a chael sgyrsiau pwysig am gelfyddydau anabledd. Mae gan y rhan fwyaf o’n digwyddiadau Cwrdd hefyd siaradwr gwadd, gan greu lle i ddysgu mwy am eu gwaith a’u profiadau nhw tra hefyd yn gallu rhannu eich gwaith a phrofiadau eich hun.

Previous
Previous

Mentora Eiriolaeth Anabledd

Next
Next

Digwyddiad Casgleb Meercat