Abi Palmer: Slime Mother, Arddangosfa Unigol Gyntaf yn Chapter

20.07.24 - 06.10.24.

Digwyddiadau Agoriadol 19.07.24, 4-8pm

Mae arddangosfa unigol gyntaf yr artist, awdur a gwneuthurwr ffilm Abi Palmer yn creu realiti amgen lle mae gwlithod, yn hytrach na chael eu trin â ffieidd-dod, yn cael eu parchu.

Yn Slime Mother, mae Abi’n gwahodd gwylwyr i ymdrochi mewn byd lle mae llysnafedd, cwiardeb, gwleidyddiaeth y gofod, yr erotig, ac arferion paru estroniaid yn rhyngblethu, gan eu hannog nhw i ymuno a chofleidio rhyfeddod cain y gastropodau gwydn yma.

Drwy gydol ei harfer amlweddog, mae Abi’n defnyddio amrywiadau ei chorff anabl fel sbardun, gan greu gwaith sydd nid yn unig yn amlsynhwyraidd ac yn doredig, ond sydd hefyd yn gwbl Gwiar.

I gyd-fynd â’r arddangosfa bydd Slugs: a Manifesto, sef cyhoeddiad newydd gan Abi a gyhoeddwyd gan Makina Books mewn cydweithrediad â Chapter, a bydd yn ymestyn ar draws rhaglen o ffilmiau, gweithdai, teithiau Iaith Arwyddion Prydain a mwy.

Meddai Abi Palmer:

“Dw i’n uniaethu gyda'r wlithen: Dw innau hefyd wedi cael fy ystyried gyda ffieidd-dod, yn ddim gwell na’r pla sy’n dwyn ysbail gan y ffermwr diwyd. Unwaith y bydda i’n rhoi lle i fy hunan i symud i ffwrdd o’r ffieidd-dod a’r ffobia dwfn, dw i’n canfod lle ar gyfer harddwch, diddordeb, a hyd yn oed parch sgleiniog tuag at greadur a ddaeth yn fwy ffiaidd fel ffordd o oroesi”.

Meddai’r Curadur Sim Panaser:

“Mae arddangosfa amlweddog Abi yn cyflwyno cosmoleg wlithaidd sy’n canoli cymunedau wedi’u hymyleiddio. Wrth groesawu meddalwch, gwydnwch a chadernid y creaduriaid llysnafeddog yma, mae Abi’n cynnig posibiliadau trawsnewidiol i ni ailystyried y ffyrdd rydyn ni’n meithrin cymuned ac yn cysylltu.”

Rydyn ni am groesawu cymaint o bobl â phosib i’r arddangosfa, felly ar 19 a 20 Gorffennaf, rydyn ni’n cynnig tair ffordd o ymuno a dathlu gyda’r artist.

19 Gorffennaf, 4-6pm, Oriel

Adeg tawelach i weld y sioe. Yn ystod y cyfnod yma, rydyn ni’n gofyn i bobl wisgo mwgwd ac i beidio â gwisgo persawr. Bydd y synau yn yr arddangosfa yn dawelach.

19 Gorffennaf, 6pm-8pm, Oriel

Am 7pm, bydd darlleniad byr gan Abi o’r testun sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa, Slugs: A Manifesto. Bydd bar talu ar gael. Nid yw gwisgo mwgwd yn orfodol, ond mae croeso i chi wneud.

20 Gorffennaf, 12pm-1.15pm, Ar-lein

Ymunwch ag Abi mewn taith ar-lein o’r arddangosfa gyda sesiwn holi ac ateb, bydd capsiynau’n cael eu darparu. Mae’n rhaid archebu, a gallwch wneud hyn drwy’r wefan: https://www.chapter.org/whats-on/public-preview-abi-palmer

Cefnogir yr arddangosfa yma gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Henry Moore.

Delwedd: Abi Palmer, llun o ffilm Slime Mother 2024.

Previous
Previous

CHOO CHOO! gan StammerMouth yn Wŷl Undod Hijinx

Next
Next

Mentora Eiriolaeth Anabledd